Tren yng Nghyffordd Llandudno

Tren yng Nghyffordd Llandudno

Gwasanaethau trên ar gyfer digwyddiadau mawr yn 'annigonol'

Cyhoeddwyd 02/05/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/05/2024   |   Amser darllen munudau

Wrth i filoedd heidio i Gaerdydd ar gyfer cyngerdd enfawr Bruce Springsteen yn Stadiwm y Principality nos yfory, mae un o bwyllgorau’r Senedd wedi datgan bod darpariaeth rheilffyrdd Cymru ar gyfer digwyddiadau mawr yn ‘annigonol’.  

Diflastod cefnogwyr sy’n teithio i ddigwyddiadau mawr  

Yn ei adroddiad blynyddol ar Drafnidiaeth Cymru, mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi galw am gamau ychwanegol i sicrhau bod pobl yn gallu teithio ar drenau i ddigwyddiadau mawr.   

Mae’r Pwyllgor yn annog Trafnidiaeth Cymru i wella ei gynlluniau ar gyfer digwyddiadau mawr ac i gynnal trafodaethau â Network Rail ynghylch aildrefnu gwaith peirianyddol ar adegau pan fydd yn gwrthdaro â chyngherddau neu ddigwyddiadau chwaraeon mawr.  

Gyda’r Foo Fighters a Taylor Swift hefyd yn perfformio yn y stadiwm a’r Manic Street Preachers a Rick Astley yn perfformio yng Nghastell Caerdydd; bydd cysylltiadau rheilffyrdd y brifddinas o dan bwysau i gludo miloedd o bobl yn drefnus – a heb oediadau – dros fisoedd yr haf. 

Sawl tro yn y gorffennol mae’r Pwyllgor wedi beirniadu’r gwasanaeth ar ddiwrnodau gem pêl-droed Cymru fel enghraifft o’r gwasanaethau gwael sy’n cael eu darparu ar gyfer digwyddiadau mawr, gan nodi bod y trên olaf yn aml yn gadael ychydig funudau ar ôl y chwibaniad olaf. Yn sgil hwn, trefnodd Trafnidiaeth Cymru trenau hwyr ar gyfer y gemau ail-gyfle yn erbyn y Ffindir a Gwlad Pwyl gyda’r Pwyllgor – a chefnogwyr – yn cymeradwyo’r penderfyniad.  

Llynedd, gwnaeth James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru, gyfaddef wrth y Pwyllgor nad oedd y gwasanaethau sydd ar gael ar gyfer digwyddiadau pêl-droed ar yr un lefel â’r gwasanaethau sydd ar gael ar gyfer digwyddiadau rygbi. 

"Gwyddom fod llawer o ffordd i fynd"

Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith:

“Yn rhy aml, mae teithwyr wedi cael eu siomi gan wasanaeth is-safonol, boed hynny oherwydd diffyg trenau a cherbydau yn ystod digwyddiadau mawr. 

“Er hyn, mae’r gwasanaethau ychwanegol a darparwyd ar gyfer y gemau pel-droed diweddar yn gam yn y cyfeiriad cywir a gobeithiwn weld hwn yn parhau ar gyfer gemau chwaraeon a chyngherddau mawr y dyfodol. 

“Gwyddom fod llawer o ffordd i fynd er mwyn adfer ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein rheilffyrdd, yn enwedig ar ddiwrnodau pan gynhelir digwyddiadau mawr.”   

Achosion o ganslo trenau  

Mae’r Pwyllgor hefyd yn galw ar sefydliad Trafnidiaeth Cymru i dalu teithwyr i gwblhau eu taith mewn tacsi os caiff eu gwasanaeth trên ei ganslo ac os nad oes gwasanaeth bws wedi’i drefnu yn lle hynny.   

Rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2023, gan orsafoedd yng Nghymru oedd y gyfradd uchaf o wasanaethau wedi eu canslo ym Mhrydain. Yn ogystal, Trafnidiaeth Cymru oedd ar waelod y rhestr mewn arolwg ynghylch bodlonrwydd defnyddwyr rheilffyrdd a gynhaliwyd gan Transport Focus, mudiad sy’n cynrychioli teithwyr.  

Dywedodd David Beer, uwch reolwr Cymru,Transport Focus, “Mae teithwyr wedi croesawu cyflwyniad trenau newydd sydd wedi ehangu capasiti a mynd i’r afael â chansladau. Mae’n dda gweld tystiolaeth o’r gwellhad hwn wedi’i adlewyrchu yn ein harolwg rheilffyrdd sydd bellach yn dangos gwelliannau mewn boddhad ym mhob agwedd o’r daith. 

“Rydym yn parhau i weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru a Network Rail wrth iddynt roi teithwyr wrth graidd ei gwasanaeth tra maent yn ailadeiladu ei dibynadwyedd ac ymddiriedaeth teithwyr.” 

Er bod arwyddion bod pethau’n dechrau gwella, mae cryn rwystredigaeth o hyd ymhlith teithwyr oherwydd bod gwasanaethau’n cael eu canslo – yn enwedig pan nad oes ffordd arall o gwblhau eu taith.   

Mae’r Pwyllgor yn dymuno gweld ystyriaeth yn cael ei rhoi i adeg y flwyddyn wrth wneud penderfyniadau ynghylch canslo gwasanaethau, ac am weld Trafnidiaeth Cymru yn cydnabod bod cael eich gadael mewn gorsaf drenau am 9pm ym mis Gorffennaf yn wahanol iawn i’r sefyllfa gyfatebol ym mis Rhagfyr. Ar hyn o bryd, mae penderfyniadau i ganslo gwasanaethau yn cael eu trin yr un peth drwy gydol y flwyddyn.   

Dylai lleoliad yr orsaf lle caiff y gwasanaeth ei derfynu, a pha mor agos ydyw at wasanaethau a chyfleusterau trafnidiaeth amgen, hefyd gael eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniad i ganslo gwasanaeth, meddai’r Pwyllgor.  

Dywedodd Llyr Gruffydd MS, “Mae ein hadroddiad blynyddol yn anfon neges glir: rhaid rhoi terfyn ar berfformiad gwael. Os bydd Trafnidiaeth Cymru yn ymgysylltu mewn modd adeiladol ac yn gwrando ar ein hargymhellion, dylem weld gwelliannau yn fuan.”

 


Mwy am y stori hon

Adroddiad ar wasanaethau rheilffyrdd a pherfformiad Trafnidiaeth Cymru 2023-24. Darllenwch yr adroddiad

Ymchwiliad: Craffu ar waith Trafnidiaeth Cymru